Felly be ma hwn yn ddweud am fideos Cymraeg ar-lein?
Wel, da ni’n lecio comedi, cerddoriaeth, barddoniaeth a phetha cŵl sydd wedi cael eu gwneud gan bobol ifanc neu unrhyw gyfuniadau o’r uchod. Dim syndod fan’na ta – heblaw am y barddoniaeth wrth gwrs, ond da ni’n od fel’na dydan.
Beth sydd ddim yna? Blogiau fideo, sdwff celfyddydol, chwaraeon, petha mwy corfforaethol, ffilmiau dogfen, fideos ymgyrchu. Dydyn nhw jest ddim y math o bethau sy’n cael eu retweetio efallai, neu jest yn fwy niche o ran eu cynulleidfa. Yn sicr dydan ni ddim yn rhy wahanol i weddill y we o ran be sy’n denu gwylwyr.
O ran be sy’n gyrru traffig y fideos yma, does dim dwywaith na Twitter ydi’r brenin gan yrru 49% o draffig y wefan yn 2010. Mae Facebook yn ail, ond yn bell tu ôl gyda 18%; chwiliadau Google am y wefan wedyn gyda 14% o’r traffig; a 9% yn dod yn uniongyrchol i’r dudalen hafan. Ond dwi’n amau bod lot o bobol yn gwylio’r fideos o fewn Facebook beth bynnag, felly fyddai’r ystadegau ddim yn dangos yma.
Y wers: os da chi’n blogio, gwneud fideos, neu wneud unrhywbeth sydd yn cynhyrchu ffrwd RSS, yna anfonwch nhw drwodd i Twitter a Facebook!
Mae Twitterfeed yn gwneud hyn i chi’n otomatig, ac am ddim – defnyddiwch o!
Pam bod yr un Lego mor boblogaidd?
Pam bod rhif 1 a 2 wedi cael cymaint o wylwyr? Dwi’n meddwl ei fod o i wneud efo rhwydweithiau’r bobol sydd wedi cynhyrchu’r fideos. Dwi’n eitha siwr bod Y Llinell a fideo Branwen/Lego wedi cael eu hyrwyddo lot ar Facebook. Ma na rhywbeth self-perpetuating hefyd am fod yn boblogaidd – y rheol Pareto neu 80/20 a’r predictable imbalance mewn dosbarthiad gweithgaredd, sef bod 80% o effeithiau yn dod gan 20% o achosion yr effeithiau hynny. Mae’r ffaith bod y fideos yna wedi ymddangos yn y rhestrau 5 uchaf misol wedi dod a rhagor o wylwyr, gan ailadrodd y gylchdro. Yn yr achos hwn mae’r ddwy fideo hyn yn cyfri am bron i 20% o argraffiadau tudalen fideobobydd am 2010.
A be nesa i fideobobdydd?
Y bwriad oedd cyflwyno, archifo, a hyrwyddo fideos Cymraeg a dwi’n credu ei fod wedi chwarae rhan fach mewn gwneud hynny. Gyda 11,191 o ymweliadau tudalen gan 2,973 o bobol wahanol, mae’n gwneud job weddol o hynny dwi’n meddwl. Bydda i’n cario mlaen i drio cael un bob dydd am y dyfodol agos, cyn belled nad ydi o’n troi mewn i ormod o waith, a dio ddim ar hyn o bryd.
O’n i hefyd isio creu ffordd o allu gwylio sianeli o fideos Cymraeg yn y dyfodol – mae categoriau a tags fideobobdydd yn galluogi hynna i ddigwydd gan y gallwch chi ddefnyddio RSS ar gyfer categoriau neu dagiau ar gyfer tynnu fideos drwodd i wefannau eraill. Mae o hefyd yn ffordd o wella tagio rhai fideos sydd heb eu tagio o gwbl.
Byddai’n dda gallu torfoli (crowd-source) peth o’r gwaith curadu rywsut, achos mae beth sy’n ymddangos ar fideobobdydd yn bownd o gael ei liwio gan fy nhâst personol i mewn fideos. Byddai’n wych gallu ffeindio ffordd syml iawn o adael i’r darllenwyr ychwanegu fideos gwahanol at y ffrwd.
Blog fideo: “Dysgu Cymraeg: Fideo Cyntaf”