Ydach chi’n gwybod am fideo wych ac isio’i rhannu fo efo gwylwyr fideobobydd?
Wel gallwch chi rwan rannu hi’n hawdd i gannoedd o bobol yn syth bin.
Mae fideobobdydd am drio arbrawf bach mewn torfoli (crowdsourcing) lle bydd posib i unrhyw un fewngofnodi i wefan fideobobdydd a phostio fideo eu hunain. Bydd y fideo yn cael ei jecio gan fideobobdydd (fydd popeth yn cael ei gyhoeddi o fewn rheswm) a’i roi yn awtomatig drwodd i Twitter a Facebook. Dwi hyd yn oed yn fodlon postio sdwff sydd ddim yn fideo, refractionist ond am fideo os hofech chi.
Sut felly?
Cam 1:
Ewch i: http://fideobobdydd.com/wp-login.php
#SYML
Cam 2:
Defnyddiwch y manylion canlynol i fewngofnodi a phostio fideos:
enw defnyddiwr “John Ogwen”
cyfrinair “iforomen”
#SYML
Cam 3:
Rhowch y link i’r fideo ar Youtube neu Vimeo yn y gofnod, sgwennwch blurb, teitl, tags, a gwasgwch cyhoeddi.
#SYML
Mae hyn wrth gwrs yn agored i abiws, ond dwi’n trystio chi, ac os ma’n mynd yn hasl na’i jest cau y cyfri John Ogwen. Neh.
Cafodd y wefan dros 10k o ymweliadau yn y flwyddyn gyntaf, 600 o ddilynwyr ar Twitter bron i 300 ffan ar Facebook…felly mae hyn yn ffordd eitha da o gael fideo o flaen llygaid pobol.
Gw’an, triwch drwsus John Ogwen am seis a phostiwch fideo.
httpvh://www.youtube.com/watch?v=eYYAUz7UtQs