Category Archives: meta

John Ogwen FTW! (Arbrawf torfoli fideobobdydd)

Ydach chi’n gwybod am fideo wych ac isio’i rhannu fo efo gwylwyr fideobobydd? Wel gallwch chi rwan rannu hi’n hawdd i gannoedd o bobol yn syth bin. Mae fideobobdydd am drio arbrawf bach mewn torfoli (crowdsourcing) lle bydd posib i unrhyw un fewngofnodi i wefan fideobobdydd a phostio fideo eu hunain. Bydd y fideo yn […]

Posted in meta | Tagged | Comments closed

Ymddiheuriadau…nol cyn bo hir

Dwi braidd yn brysur ar hyn o bryd felly bydd fideos yn patchy am ychydig. Nol i wasanaeth llawn yn fuan. Diolch. Rhodri

Posted in meta | Comments closed

Siart fideos feiral Cymraeg 2010 gan fideobobdydd

Wel, efallai bod ‘feiral’ yn pwsho hi braidd, ond mae’n siart o’r fideos sydd wedi cael y mwyaf o ymwelwyr ar fideobobdydd beth bynnag. Falla bod o’n rhoi syniad go dda o ba fideos Cymraeg sydd wedi bod yn boblogaidd dros y 6 mis diwethaf ers i fideobobdydd fod yn mynd. Oedd na rai da […]

Also posted in 5 Uchaf, animeiddio, barddoniaeth, cerddoriaeth, comedi, symudol | Tagged , , , , , , , , | Comments closed

5 uchaf fideos mis Rhagfyr

Ym mis Rhagfyr cafodd fideobobdydd 1,175 o ymweliadau a’r wefan gan 685 o bobol wahanol gan edrych ar 1,784 o dudalennau rhyngthyn nhw . Un o’r misoedd prysuraf eto. Ella oherwydd bod fi di rhoi dwbl y fideos fyny, ella chos bod fideos dolig yn bobologaidd. Wn i ddim. Dwi’n gwybod y bydd hi’n annodd […]

Also posted in 5 Uchaf | Tagged , , , , , , , , | Comments closed

Myn Diawl Mundial

Wel tydach chi’n lwcus, mae na wefan fideos arall wedi ymddangos ar y rhyng-tinter-we-Gymraeg. Llawenhewn a gorfoleddwn! Rhowch groeso mawr i Myn Diawl Mundial, gwefan sy’n cyflwyno pob math o fideos gan ddiwylliannau lleiafrifol. Eisoes mae na ddrwm a bas Arabeg, hip hop Llydaweg a Gwyddelig a mwy. Mae o’n wych wych wych, felly ewch […]

Also posted in cerddoriaeth | Tagged , , , , , , , | Comments closed

5 Uchaf Fideos Mis Hydref (+ bonws Sacramento)

Er bod S4C yn disgyn yn ddarnau o flaen ein llygaid mi allwch chi dal ddibynnu ar fideobobdydd i ddod a fideos Cymraeg gwych atoch chi! Beth sy’n ffantastic am y mis yma ydi bod 4 o’r 5 uchaf yn fideos cwbl annibynnol. Parch masif i bawb sydd wedi eu cynhyrchu. Plis gwnewch fwy. Y […]

Also posted in 5 Uchaf | Comments closed

5 Uchaf Fideos Mis Medi

Dydi hi ddim wedi bod yn fis mor brysur ac Awst gyda 950 o ymwelwyr unigol o’i gymharu a 1,300 y mis blaenorol, ond gellid dweud bod Dan wedi bod yn ffenomenon anghyffredin iawn. Mae’n ddiddorol gweld bod dwy fideo yn aros yn y 5 uchaf ers Awst gyda thri newydd yn methu a churo […]

Also posted in 5 Uchaf | Tagged | Comments closed

5 Uchaf Fideos Awst 2010

Mae mis Awst wedi bod yn un prysur. Yn gynta daeth sgwrs ar raglen Caryl a Daf am fideobobdydd a phobol newydd draw, a rhoi cyfle i plygio fideo Lego gwych ysgol Cymerau. Yna digwyddodd Dan Rhys. Ar ddechrau Awst roedd prin ddegau o bobol wedi gwylio y fideo. Erbyn hyn mae dros 3,000 wedi […]

Also posted in 5 Uchaf | Tagged , , , , , , , , , , | Comments closed

5 Uchaf Fideos Gorffenaf 2010

Diolch am ddod draw a gwylio’r fideos. Dyma’r 5 fideo sydd wedi cael y mwyaf o wylwyr yn ystod mis Gorffennaf…*cue music Top of The Pops* Stori Branwen wedi ei animeiddio gyda Lego – ffilm animeiddio fer sydd wir yn dangos talent a dychymyg. Huw yn “Clocsio” – neidio dros ysgub mewn esgidiau wedi eu […]

Also posted in 5 Uchaf | Tagged | Comments closed

5 fideo mwya poblogaidd mis cyntaf fideobobdydd

“Bibopalwla” gan Meic Stevens a Cate Le Bon Huw yn “Clocsio” TelisCymraeg.com “Cilmeri” gan Gerallt Lloyd Owen Chink yn Fic Penygroes Wn i ddim fydd hwn yn rwbath misol, ond ma’r pum fideo yma deffinet werth cip.

Posted in meta | Tagged | Comments closed