John Ogwen FTW! (Arbrawf torfoli fideobobdydd)

Ydach chi’n gwybod am fideo wych ac isio’i rhannu fo efo gwylwyr fideobobydd?

Wel gallwch chi rwan rannu hi’n hawdd i gannoedd o bobol yn syth bin.

Mae fideobobdydd am drio arbrawf bach mewn torfoli (crowdsourcing) lle bydd posib i unrhyw un fewngofnodi i wefan fideobobdydd a phostio fideo eu hunain. Bydd y fideo yn cael ei jecio gan fideobobdydd (fydd popeth yn cael ei gyhoeddi o fewn rheswm) a’i roi yn awtomatig drwodd i Twitter a Facebook. Dwi hyd yn oed yn fodlon postio sdwff sydd ddim yn fideo, more about ond am fideo os hofech chi.

Sut felly?

Cam 1:

Ewch i: http://fideobobdydd.com/wp-login.php

#SYML

Cam 2:

Defnyddiwch y manylion canlynol i fewngofnodi a phostio fideos:

enw defnyddiwr “John Ogwen”
cyfrinair “iforomen”

#SYML

Cam 3:

Rhowch y link i’r fideo ar Youtube neu Vimeo yn y gofnod, sgwennwch blurb, teitl, tags, a gwasgwch cyhoeddi.

#SYML

Mae hyn wrth gwrs yn agored i abiws, ond dwi’n trystio chi, ac os ma’n mynd yn hasl na’i jest cau y cyfri John Ogwen. Neh.

Cafodd y wefan dros 10k o ymweliadau yn y flwyddyn gyntaf, 600 o ddilynwyr ar Twitter bron i 300 ffan ar Facebook…felly mae hyn yn ffordd eitha da o gael fideo o flaen llygaid pobol.

Gw’an, triwch drwsus John Ogwen am seis a phostiwch fideo.

Ysbrydolwyd gan Clusterflock.
httpvh://www.youtube.com/watch?v=eYYAUz7UtQs

This entry was posted in meta and tagged . Bookmark the permalink. Both comments and trackbacks are currently closed.

2 Comments

  1. Posted 29/06/2011 at 15:15 | Permalink

    Fel Christopher Walken ar Clusterflock? NEIS!

    Syniad ardderchog.

    • fidi-fidi-o
      Posted 29/06/2011 at 15:25 | Permalink

      Iep. Cawn weld. Croeso i ti gyfrannu. Croeso i unrhyw un gyfrannu.

      John Ogwen yw pawb, pawb yw John Ogwen.

One Trackback