Mr. John Williams, Crughywel yn dangos nerth trydanol y maen hir i Gwenda Griffiths. A dydi hynny ddim yn euphemism. Yn anffodus.
Clip o’r rhaglen ‘Tybed’ a ddarlledwyd ar 29 Medi 1976.
Dau sylw pellach:
- pam nad yw disgrifiad y fideo ar sianel swyddogol y BBC ar YouTube yn Gymraeg?
- fe welwch chi bod y nytars gwrth-Gymreig yno yn llu yn y sylwadau. Syndod nad yw’r BBC yn gwneud unhryw ymdrech i gymedroli rhai o’r sylwadau mwy eithafol.


5 Comments
Gwych! Dylai rhywun dweud wrth Ben Goldacre am hyn.
Am y sylwadau: mae rhai ohonyn nhw yn iawn. Mae hi yn siarad bolycs, jyst nid yn y ffordd maen nhw’n meddwl.
sori bod dy sylw ddim wedi ei gyhoeddi’n syth. Aeth o i’r blwch spam am ryw reswm.
“Bwydwch y troliaid nes iddyn nhw droi’n gerrig yn yr haul” yw’r “paid â bwydo’r troliaid” newydd.
Problem yma yw disgwyliadau yr ymwelwyr. Dylai’r disgrifiad bod yn Gymraeg. O leiaf defnyddia’r tag Cymraeg a phethau debyg hefyd!
LOL @ y fideo ddo
Fi dy gadael sylw ar y sianel YouTube:
“Love the BBC Cymru videos especially but is there any chance of putting the title/descriptions in Welsh so people know what to expect? A lot seem to have bewildered commenters complaining about the language the video is in. Also if you tag them Cymraeg you might get more views. Thanks “