5 uchaf fideos mis Rhagfyr

Ym mis Rhagfyr cafodd fideobobdydd 1,175 o ymweliadau a’r wefan gan 685 o bobol wahanol gan edrych ar 1,784 o dudalennau rhyngthyn nhw . Un o’r misoedd prysuraf eto. Ella oherwydd bod fi di rhoi dwbl y fideos fyny, ella chos bod fideos dolig yn bobologaidd. Wn i ddim. Dwi’n gwybod y bydd hi’n annodd cael digon o fideos i wneud dwy fideo y dydd yn Ionawr, felly beryg taw nol i un y dydd fydd hi.

Os fethoch chi rhai o hits y mis, dyma’r 5 mwyaf poblogaidd i chi gael dal fyny:

  1. Stori Branwen wedi ei animeiddio gyda Lego – ydi, mae hi DAL yn rhif 1! Llongyfarchiadau!
  2. “Stwffiwch y dolig ddim y twrci” gan SFA – tiwn wnaeth GRuff ar gyfer promo dolig S4C bac in ddy dei
  3. Clasur comedi Nadolig: Gritto’r Hewl i Fethlehem – os nad ydych chi wedi ei gwylio hi. Gwnewch hynny. Sdim ots os di’n ddolig neu beidio.
  4. “Eira” gan Gorky’s Zygotic Mynci – can addas ar gyfer tywydd Rhagfyr…
  5. Sianel fideo Gymraeg newydd: CAFF1 – fideo cyntaf yn rhoi rhaglfas o’r hyn sydd i ddod gan gynhyrchwyr Caff1

Os ydach chi’n meddwl bod y 5 uchaf ma’n dda/dibwynt/handi yna gadwch sylw. Fase’n dda cael gwybod be ma pobol yn feddwl.

This entry was posted in 5 Uchaf, meta and tagged , , , , , , , , . Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  • sdwff


  • Dilynwch fideobobdydd ar Twitter
    Tanysgrifiwch!
  • categorïau

  • sylwadau